Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 7
Mehefin 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru
(60 munud)
NDM8281 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Strategaeth a chynllun gweithredu seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru’, a osodwyd ar 28 Mawrth 2023.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Mai 2023.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Arferion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(30 munud)
NDM8282 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y dylid cyhoeddi adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn llawn ac y dylai fod yn y parth cyhoeddus.
2. Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyhoeddi adroddiad Ernst & Young.
3. Yn gofyn, o ystyried canfyddiadau Ernst & Young, fod adolygiad ehangach ac annibynnol yn cael ei ystyried i roi sicrwydd:
a) nad yw'r arferion a nodwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn digwydd mewn sefydliadau GIG eraill yng Nghymru; a
b) nad oedd arferion tebyg wedi effeithio ar flynyddoedd ariannol cyn y rhai a adolygwyd gan Ernst & Young
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y diddordeb sylweddol yn adroddiad fforensig Ernst & Young o faterion cyfrifyddu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac yn nodi galwadau i’w gyhoeddi.
2. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i’r afael â’r materion a godwyd yn adroddiad Ernst & Young yn unol â gweithdrefnau a pholisïau presennol a’i fod yn ceisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â’i gyhoeddi.
3. Yn nodi rôl Archwilio Cymru yn rhoi sicrwydd ar reoli arian cyhoeddus a bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymarfer dysgu gwersi a rhannu’r canfyddiadau ymysg sefydliadau’r GIG.
7 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynefinoedd carbon glas
(30 munud)
NDM8283 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod bod moroedd Cymru yn cynnwys morwellt, morfeydd heli, a chynefinoedd carbon glas gwymon, sy'n cwmpasu mwy na 99km² o rwydwaith ardaloedd morol gwarchodedig Cymru.
2. Yn nodi bod carbon eisoes yn cael ei storio yng ngwaddodion morol Cymru.
3. Yn gresynu at y ffaith bod hyd at 92 y cant o forwellt y DU wedi diflannu yn ystod y ganrif ddiwethaf, fel yr amlygwyd yn Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru.
4. Yn cydnabod bod galluoedd storio carbon y cefnfor yn hanfodol wrth gyrraedd y targed o ddod yn sero-net erbyn 2050.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) creu cynllun adfer carbon glas cenedlaethol i Gymru, wedi'i gynllunio i gynnal a gwella ein cynefinoedd carbon glas morol amhrisiadwy;
b) adeiladu ar lwyddiant Prosiect Seagrass, cydweithrediad rhwng Sky Ocean Rescue, WWF a Phrifysgol Abertawe, sy'n anelu at adfer 20,000m² o forwellt, drwy blannu dros 750,000 o hadau ym Mae Dale yn Sir Benfro; ac
c) datblygu cynllun datblygu morol cenedlaethol Cymru sy'n dangos yn glir lle y gellir cynnal prosiectau carbon glas.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn credu y dylid manteisio ar bob cyfle ddaw i ehangu dalfa garbon Cymru, megis carbon glas, er mwyn cyflymu’n taith at sero net yn hytrach nag osgoi gweithredu.
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatganoli Ystâd y Goron fel bod mwy o benderfyniadau sy’n effeithio ar garbon glas yn cael eu gwneud yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau adferiad carbon glas cenedlaethol trwy ariannu gwaith cynnal a gwella morwellt, morfeydd heli a chynefinoedd arfordirol eraill sy’n gyfoethog o ran eu natur a’u carbon;
b) adeiladu ar lwyddiant yr holl brosiectau ledled Cymru sy’n adfer cynefinoedd morol, gan gynnwys gwaith llwyddiannus y Prosiect Morwellt yn Dale a phrosiect Ocean Rescue Seagrass o dan arweiniad Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gafodd ei ariannu’n ddiweddar i dargedu gwaith adfer oddi ar arfordir Llŷn; a
c) mynd i’r afael â chynllunio morol mewn ffordd ofodol gan sicrhau bod prosiectau carbon glas yn cael eu lleoli i sicrhau’r manteision mwyaf i natur tra’n caniatáu gweithgareddau morol pwysig eraill gan gynnwys pysgota, mordwyo ac ynni.
8 Dadl Plaid Cymru - Datganoli adnoddau dŵr yn llawn
(60 munud)
NDM8279 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) y dylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr, gan gynnwys y gallu i reoleiddio trosglwyddo dŵr y tu hwnt i'w ffiniau;
b) y byddai datganoli pwerau dros ddŵr ymhellach hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i fynd i'r afael â'r broblem o ollyngiadau carthion i afonydd a moroedd Cymru mewn modd mwy effeithlon; ac
c) bod preifateiddio dŵr yn fodel aflwyddiannus sydd wedi arwain at filiau cynyddol a dirywiad trychinebus yn ansawdd dŵr Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gofyn yn ffurfiol am gychwyn adran 48(1) o Ddeddf Cymru 2017, a fyddai'n alinio cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd dros ddŵr yn llawn â ffin ddaearyddol Cymru;
b) gofyn yn ffurfiol am ragor o bwerau dros drwyddedu ymgymerwyr carthion yng Nghymru; ac
c) cyflwyno deddfwriaeth o fewn tymor presennol y Senedd i osod cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff cwmnïau dŵr yng Nghymru ar sail statudol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod cyfrifoldeb dros reoli llygredd wedi'i ddatganoli i Gymru.
2. Yn gresynu at y ffaith bod 25 y cant o'r oriau a gofnodwyd o ollyngiadau carthion yng Nghymru a Lloegr yn 2022 wedi mynd i ddyfrffyrdd Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diweddaru'r cynllun gweithredu i fynd i'r afael â gollyngiadau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru;
b) cyhoeddi adroddiad tasglu Llywodraeth Cymru ar orlifiadau stormydd; ac
c) gweithredu targedau statudol i gwmnïau dŵr wella gorlifiadau stormydd.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd bwynt 2:
defnyddio ei phwerau i’w gwneud yn ofynnol bod pob buddsoddiad strategol mewn seilwaith dŵr sy’n effeithio ar Gymru, gan gynnwys trosglwyddiadau, yn dod â budd i gymunedau ac amgylchedd naturiol Cymru.
gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu dyfodol adnoddau dŵr Cymru trwy fynd i’r afael â phob gwasgfa ar yr adnoddau hynny, sef o ddŵr gwastraff, dŵr ffo trefol, camgysylltiadau, llygredd gwledig gwasgaredig, newidiadau ffisegol, hen lofeydd a rhywogaethau goresgynnol.
neilltuo cyllid ychwanegol i’r Byrddau Rheoli Maethynnau i brysuro’u gwaith o ddiogelu adnoddau dŵr.
neilltuo cyllid ychwanegol ar gyfer grantiau cyfalaf i ffermwyr iddynt allu gwella seilwaith sy’n diogelu adnoddau dŵr.
cynyddu’r defnydd o ddata gwyddoniaeth y dinesydd er mwyn i ni allu deall yn well y gwasgfeydd ar adnoddau dŵr.
datblygu dulliau ar lefel dalgylch gyfan ar gyfer cydsynio a gwelliannau strategol wrth reoli adnoddau dŵr cenedlaethol.
9 Cyfnod Pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8278 Buffy Williams (Rhondda)
Cymorth i fenywod yng Nghymru sy'n dioddef o anhwylder dysfforig cyn mislif
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Mehefin 2023